Menu Scroll

Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned (FaCE)



Hoffwn gyflwyno fy hun fel Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned Ysgol y Gogarth ac esbonio beth yn union fydd fy rôl yn yr ysgol. Rhan fawr o’m gwaith yn Ysgol y Gogarth fydd cydlynu a darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i rieni.

Bydd hyn yn cynnwys:-

  • Cyfeirio teuluoedd newydd a phresennol y plant sy’n dod i’n hysgol at sefydliadau a gwefannau defnyddiol
  • Datblygu cysylltiadau â sefydliadau a gwasanaethau a all rhoi cymorth i deuluoedd
  • Darparu cyfleoedd i deuluoedd gyfarfod
  • Trefnu gweithdai rheolaidd ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid ac aelodau eraill y teulu
  • Cyfarfod teuluoedd i drafod anghenion neu bryderon penodol
  • Eich cefnogi chi a’ch plentyn yn yr ysgol


Os oes gennych ymholiad neu os hoffech fwy o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â fi yn yr ysgol.

Angharad Williams– (Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd a’r Gymuned)



FaCE