Menu Scroll

Llys Gogarth



Mae Llys Gogarth yn gyfleuster preswyl, pwrpasol, newydd. Mae’n cynnig pecyn addysg breswyl a gofal datblygu integredig i blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 19 oed. Mae Llys Gogarth hefyd yn cynnig gwasanaeth seibiannol er mwyn helpu teuluoedd i gynnal eu hunain.

Mae’r gwasanaeth yn darparu amgylchedd gofalgar, strwythuredig a chartrefol a gynlluniwyd yn benodol i ddiwallu anghenion y grŵp cleientiaid yn gyffredinol. Bydd pob unigolyn yn dilyn ei gynllun gofal ysgrifenedig mewn amgylchedd lle ceir disgwyliadau uchel ond realistig, caiff unedau’r gwaith addysgol eu gwirio yn allanol a’u hachredu drwy’r Gynghrair Asesu a Chymwysterau a chaiff canlyniadau personol a datblygiad cymdeithasol eu monitro yn erbyn amcanion clir.

Caiff pob plentyn ac unigolyn ifanc sy’n aros yn Llys Gogarth eu gwerthfawrogi fel unigolion a’u trin â pharch ac urddas. Yr amcan cyffredinol yw creu’r amodau delfrydol i bob plentyn ac unigolyn ifanc lwyddo hyd eithaf eu potensial, adeiladu cydnerthedd personol a theuluol a pharatoi i fyw mor annibynnol â phosibl a chael bywyd sy’n dwyn boddhad fel oedolion.