| Buddsoddwyr Mewn Teuluoedd (BMT)
Mae BMT yn nod ansawdd sy'n cydnabod y gwaith y mae ysgolion a lleoliadau eraill yn ei wneud gyda theuluoedd i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Mae Ysgol y Gogarth yn parhau i ymdrechu i adeiladu ar ffyrdd o ymgysylltu a chefnogi teuluoedd.
|
| Ysgol Arloesi
Mae Ysgol y Gogarth yn falch o gael ein dewis gan Lywodraeth Gymru fel Ysgol Arloesi sy'n canolbwyntio ar ddylunio a datblygu'r cwricwlwm. Mi fydd yr ysgol yn cyfrannu'n benodol at y broses o ddylunio'r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
|
 | Achrediad Awtistiaeth
Ysgol y Gogarth yw’r ysgol arbennig a gynhelir gyntaf yng Nghymru i gael yr Achrediad Awtistiaeth. Mae Achrediad Awtistiaeth yn rhaglen sicrhau ansawdd sy’n ymwneud yn benodol ag awtistiaeth ac fe’i darperir gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ar gyfer dros 300 o sefydliadau ar draws y Deyrnas Unedig a’r byd. Cenhadaeth Achrediad Awtistiaeth yw gwella ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer pobl ag anhwylder sbectrwm awtistig drwy ddarparu fframwaith systematig ar gyfer adolygu a datblygu parhaus a sicrhau bod gwasanaethau Achrededig yn dangos eu bod yn bodloni meini prawf sefydledig.
|
 | Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru
Mae ysgol sy’n hybu iechyd yn hybu a diogelu iechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol a lles ei chymuned drwy gymryd camau cadarnhaol ym meysydd polisi, cynllunio strategol a datblygiad staff. Darllenwch fwy... |
 | iNet
Mae Rhwydweithio Rhyngwladol i Weddnewid Addysg (International Networking for Educational Transformation neu iNet) yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau i weddnewid addysg drwy rannu arfer da a mentergarwch. Darllenwch fwy...
|
 | Eco-Sgolion
Mae Eco-Sgolion, rhaglen ryngwladol y Sefydliad Addysg Amgylcheddol, yn annog myfyrwyr i ymwneud â materion datblygu cynaliadwy drwy ddulliau dysgu hwyliog sy’n rhoi pwyslais ar weithredu. Darllenwch fwy... |
 | Marc Gyrfa Cymru
Mae Marc Gyrfa Cymru: Gwella Ansawdd yn Barhaus yn achredu sefydliadau sydd wedi dangos bod ganddynt weithdrefnau gweithredol i sicrhau gwelliant parhaus o ran canlyniadau eu dysgwyr. Darllenwch fwy... |
| Ysgol Creadigol Arweiniol
Nod y Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yw hybu ffyrdd newydd o weithio mewn ysgolion, gan roi cyfle i ysgol ddatblygu rhaglen ddysgu arloesol a phwrpasol sydd â’r nod o wella ansawdd addysgu a dysgu. Read more ... |