Croeso i Ysgol y Gogarth
Mae Ysgol y Gogarth yn Ysgol Arbennig ddyddiol a phreswyl sy’n darparu ar gyfer 210 o ddisgyblion rhwng 3 ac 19 oed ar hyn o bryd.
Lleolir yr ysgol uwchlaw bae hyfryd Llandudno a llai na phedair milltir o ffordd gyflym yr A55.
Mae gan ddisgyblion yr ysgol ddatganiad llawn neu maent yn y broses o gael datganiad ac mae ganddynt amrywiaeth eang o anghenion dysgu ychwanegol.
Ochr yn ochr â darpariaeth yr ysgol, mae Llys Gogarth yn gyfleuster preswyl pwrpasol. Mae’n cynnig pecyn addysg breswyl a gofal datblygu integredig i blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 19 oed. Mae Llys Gogarth hefyd yn cynnig gwasanaeth seibiannol er mwyn cynorthwyo teuluoedd i gynnal eu hunain.